Cartref - Am y Ganolfan
NCH Canolfan y Plant
Y Prosiect
Cafodd y prosiect ei sefydlu i wella cyd-weithio gydag asiantaethau sy'n ymwneud a phlentyn / person ifanc ag anghenion arbennig. Un ffordd o wneud hyn yw i ddarparu gwybodaeth i rieni. Mae yna ganolfan wybodaeth ar gael yn 6 Cwrt Myrddin, Lon Winch, lle mae croseo i rieni ymweld neu ffonio am wybodaeth rhwng 9yb a 5yh, Dydd Llun i Ddydd Gwener. 
Y gwasanaethau sydd ar gael gennym
Canolfan wybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth am bob math o faterion sy’n ymwneud â gofalu am blentyn / person ifanc sydd ag anghenion arbennig. Mae'r pecynnau gwybodaeth wedi i noddi gan Texaco ac mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y wefan hon. Mae modd galw heibio neu ffonio’r ganolfan gydag unrhyw ymholiadau, ac os nad oes yw’r wybodaeth anghenrheidiol gennym, fe ddown o hyd iddi.
Man cyfarfod
Diolch i gronfa Texaco, mae gennym ystafell gyfarfod gyfforddus ar gael yn rhad ac am ddim i nunrhyw grŵp sy’n gysylltiedig â phlant anabl. Mae’r Tîm Datblygiad Plant yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd yn y ganolfan, a grwpiau cefnogi rhieni yn ymgynnull yno’n aml. Gellir defnyddio’r ystafell hefyd at ddiben hyfforddi.
Cynllun cydweithredu
Mae system o weithwyr allweddol ar gael i nifer fechan o deuluoedd lle mae plentyn sy’n ddifrifol o anabl yn derbyn gwasanaethau gan fwy na dwy gwasanaeth. Mae’r gweithwyr allweddol yn cyd-drefnu gwasanaethau, yn cynnig cefnogaeth i’r teulu cyfan, yn darparu geybodaeth fel sydd ei hangen ac yn gweithio fel eiriolwr pan fo angen.
YDYCH PLENTYN / PERSON IFANC WEDI COFESTRU?
Sefydlwyd Cofrestr Anghenion Penodol yn y flwyddyn 2000. Mae'n cael ei ddefnyddio i ddarparu rhieni gyda gwybodaeth perthnasol yn ogystal a helpu gwella gwasanaethau yn Sir Benfro.
BETH YW PWRPAS Y COFRESTR?
Mae'r gorfestr yn cael ei defnyddio i wella gwasanaethau i blant a phobol ifanc yn y Sir sydd ag anableddau. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth ystadegol pob cwarter ac yn flynyddol, sydd yn helpu gwella'r broses cynllunio i asiantaethau ac i adnabod newidiadau tuedd, fel bod gwasanaethau yn cael ei greu i gwrdd ar anghenion hyn.
SUT FYDD HYN O FUDD I MI?
Fel rhiant i blentyn / berson ifanc ag anbledd sydd ar y cofrestr, byddwch yn derbyn cylchlythyr dwy waith y flwyddyn yn cynnwys gwybodaeth diddorol a defnyddiol. Byddwch hefyd yn cael gwahoddiad i ddod ar gyrsiau hyfforddiant trwy'r flwyddyn sydd yn cael ei rhedeg gan staff y ganolfan a rhai cymdeithasau wirfoddol eraill drwy'r Sir. Rydym hefyd yn dal diwrnod o hwyl yn flynyddol i bawb sydd ar y cofrestr.
SUT ALLAI GOFRESTRU FY MHLENTYN / PERSON IFANC?
Mae cofrestru yn dasg rhwydd. Mae angen i chi lenwi ffurflen (allwch is-lwytho y ffurflen hon drwy fynd i dudalen Cofrestr Anghenion Penodol ar y wefan hon. Maent hefyd ar gael o'r ganolfan neu drwy eich Ymwelydd Iechyd), gwneud yn siwr bod y manylion penodol wedi i gwblhau, arwyddo'r ffurflen a'i ddychwelyd nol i'r ganolfan. Fe wnawn ni y gweddill.